This site uses Google Analytics cookies to track visitor statistics.
For more information and links to our privacy policy please click here.

Accept & Dismiss Notification

« Yn ôl   

Dyddiadur Dripsyn 2: Y Brawd Mawr

Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Clawr meddal
Cyfres: Dyddiadur Dripsyn

Awdur: Jeff Kinney
Cyfieithydd: Owain Sion

£6.99
Ychwanegu i'r Basged
Beth am rannu?
Disgrifiad
Ar ddechrau blwyddyn newydd a dyddlyfr newydd, mae Greg yn awyddus i anghofio helyntion anffodus (a chyfrinachol!) yr haf. Ond mae rhywun arall yn gwybod bob dim - rhywun sy'n ei gweld hi'n ddyletswydd arno i ddatgelu cyfrinachau crinjllyd - ei frawd mawr, Rodric. Sut gall Greg oroesi yn yr ysgol gyda'i ddelwedd cðl(-ish) mewn un darn?
Manylion Cynnyrch
Dyddiad Cyhoeddi: 1 October 2012
Genre: Plant
ISBN 13: 9781849671293
Reviews

Mae lle tu hwnt o amlwg i’r Wimpy Kid a’i ddyddlyfrau mewn siopau llyfrau dirifedi.

Yn yr Unol Daleithiau y cyhoeddwyd y nofelau bachog hyn ar ffurf dyddiadur yn gyntaf ond maent bellach ar gael mewn 40 o ieithoedd.

Ac mae’r Gymraeg yn un o’r ieithoedd hynny. Cyhoeddwyd cyfieithiad Owain Siôn, Dyddiadur Dripsyn, fis Tachwedd 2011 ac wele’r ail yn y gyfres Y Brawd Mawr o fewn llai na blwyddyn, fis Medi, 2012. Nid oes cwestiwn am boblogrwydd a llwyddiant y llyfrau yn y Saesneg gyda’r awdur Jeff Kinney yn cael ei eni ymhlith y cant o bobl mwyaf dylanwadol y byd gan gylchgrawn Time yn 2009.

Heb amheuaeth, os gallwch chi rwydo dychymyg plant i’r un graddau ag ef yr ydych yn berson o ddylanwad ac yn awdur breintiedig iawn. Cychwyn y daith tuag at y fath boblogrwydd oedd egin syniad ym 1998 a hynny’n arwain at gyhoeddi’r dyddiadur cyntaf ar y we yn 2004 ar gyfer plant wyth i un ar ddeg oed. Yr ymateb i’r dyddiadur gwe hwnnw, a ddiweddarwyd yn ddyddiol, sbardunodd gyhoeddi fersiwn rhwng dau glawr gyda lluniau cartŵn yn 2007.

Bu’r fenter yn llwyddiant ysgubol wrth i ddarllenwyr wyth, naw, oed ac yn hŷn uniaethu â bywyd a phrofiadau’r llinyn trons, Greg Heffley, yn ceisio dygymod ag ysgol, cartref a gormes ei frawd mawr Rodric, a dygymod, fel mae plant yn gorfod, â’r creadigaethu od hynny – rhieni! A heb amheuaeth, yr oedd apêl arbennig i’r lluniau cartŵn syml ac effeithiol rhwng y testun. Trodd y cyfan yn ffrwydrad o lwyddiant gyda saith llyfr ar gael yn Saesneg erbyn hyn a nifer o ddefnyddiau atodol fel ffilmiau.

Mae trosiad Owain Siôn yn ddi-fai; yn driw i ysbryd y gwreiddiol ond yn gwbl gartrefol yn y Gymraeg ar yr un pryd, ac mae apêl neilltuol i’r ffurf ddyddiadurol sydd mor hwylus i’w darllen ac yn ddi-dreth. Ffurf gyfforddus heb ei hail i ddenu plant.

Dydw i ddim yn sicr os ydw i’n gwbl hapus efo'r gair 'dripsyn' am 'Wimp', ond rwy'n dweud hynny heb fedru cynnig dim byd gwell fy hun. Rai blynyddoedd yn ôl bachodd Bethan Gwanas un trosiad posibl arall, 'llinyn trons', ar gyfer un o’i nofelau hi.

Cyn tewi, cwestiwn sy’n siŵr o gael ei godi am y gyfrol hon a chyfresi tebyg yw gwir werth ei throsi ar gyfer darllenwyr Cymraeg sydd, yn ddiwahân, â’r gallu i’w darllen a’i mwynhau yn yr iaith wreiddiol beth bynnag.

Mae hwn yn bwnc sy’n haeddu trafodaeth lawnach, ond yn y cyfamser rwy’n siŵr y bydd y darllenwyr hynny sy’n darganfod y gyfres yn y Gymraeg gyntaf yn closio at y Dripsyn a chydymddwyn â’i brofiadau.

Glyn Evans

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Glyn Evans
Cyngor Llyfrau Cymru

Llyfrau tebyg efallai byddech yn mwynhau:
10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod)
Arwr y Gofod - Cyfres Arwr 1 (Dewis dy Dynged)
Bws Y Nos
Clem yn y Ddinas
Crafangau'r Macra - Doctor Who (Dewis y Dynged)
Cyfres Gwyddoniadur Pwysig Iawn: Fy Myd Pwysig Iawn
Dyddiadur Dripsyn
King Arthur, The Story of
Lego 100 Ffordd i Adeiladu Byd Gwell
Lego Hanes Epig
Pecyn Doctor Who
Pecyn LEGO
Sepron, Y Neidr Fôr - Byd y Bwystfilod 2
Tag
WAW! Y Ddaear
Amdanom Ni a Chyflwyniadau
Cysylltu
Termau a Thelerau
Polisi Preifatrwydd
Moesegau a Chynaliadwyedd
© 2024 Cyhoeddiadau Rily. Cedwir pob hawl.