Pecyn Straeon Nadolig
Disgrifiad
• Pecyn bargen sy’n cynnwys dau lyfr doniol i blant.
• 1. Dyddiadur Dripsyn: Storm Eira
Mae difrod yn yr ysgol a Greg sy'n cael y bai, sy'n hollol hurt am ei fod yn hollol ddieuog! Wel, bron iawn. Gyda'r awdurdodau ar ei ôl, daw storm eira ac mae'r lluwchfeydd yn caethiwo'r teulu Haffley yn eu cartref. Mae'r Dripsyn yn gwybod y bydd yn rhaid iddo fynd o flaen ei well pan fydd yr eira'n dadmer, ond faint gwaeth fydd hynny na bod yn sownd yn y tŷ efo'r teulu?
• 2. Nadolig y Bwsi Beryglus
Gofynnwch i mi. 'Twffyn annwyl ac addfwyn, pam oedd dy Nadolig di mor ofnadwy?' Wel, doeddwn i ddim yn cael dringo'r goeden Nadolig. Doedd fiw i mi gyffwrdd yr addurniadau oedd yn hongian ym mhob man. Mynnodd Elin fy mod yn rhan o'i sioe lwyfan Nadolig hi. Erchyll, erchyll, erchyll! Ond ddangosais i iddyn nhw fy mod i'n Seren-gath ddisglair.
Manylion Cynnyrch
Dyddiad Cyhoeddi: 11 November 2021Genre: Cymraeg i blant
ISBN 13: 9781804162446
Llyfrau tebyg efallai byddech yn mwynhau: