This site uses Google Analytics cookies to track visitor statistics.
For more information and links to our privacy policy please click here.

Accept & Dismiss Notification

Llyfrau Plant > Holl Lyfrau

Porwch Lyfrau Plant yn ôl oedran:
0+ 5+ 7+ 11+
Porwch Gyfresau Porwch Awduron
Llyfrau Newydd (10) Dod yn Fuan (3)
Grŵp Oedran: 11+ 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Julia March
Cyfieithydd: Mari George

Disgrifiad: Trydydd teitl mewn cyfres newydd o lyfrau LEGO clawr caled. Fe'n cyflwynir i nifer o ymladdwyr Ninja sy'n ffefrynnau gan blant, gan eu dilyn drwy antur newydd anhygoel. Addas ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen a'r Blynyddoedd Cynnar.
Grŵp Oedran: 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Siân Lewis

Disgrifiad: Y Mabinogi yw chwedlau hynaf ac enwocaf Cymru, a'r Pedair Cainc yw straeon craidd y chwedlau hyn. Er iddyn nhw gael eu hysgrifennu ar femrwn tua wyth canrif yn ôl, bu storïwyr yn eu hadrodd ar lafar sawl canrif cyn hynny. Mae'r chwedlau...
Grŵp Oedran: 11+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Sam Hearn
Cyfieithydd: Nia Peris

Disgrifiad: Mae gem adnabyddus wedi cael ei ddwyn! Tybed a all Sherlock, gyda chymorth John a Martha, ddatrys dirgelwch y diemwnt neilltuol hwn? Caiff y cyflwyniad hwn i gymeriadau clasurol Arthur Conan Doyle ei adrodd drwy gofnodion blog Watson, nodiadau...
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled + tegan meddal

Awdur: David Bedford
Cyfieithydd: Elin Meek

Disgrifiad: Pan fydd mamoth bach yn cyrraedd yn annisgwyl, mae Rhu yn gwneud ffrind newydd. Ond hefyd, mae'n rhaid i Rhu wneud penderfyniad anodd iawn. Dere am antur hyfryd gyda Rhu, a rho fwythau i dy ddeinosor bach cwtshlyd dy hun, a'i flanced fach feddal.
Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Pecyn - 8 llyfrau

Awdur: 2 Steves (Barlow/Skidmore)
Cyfieithydd: Catrin Hughes

Disgrifiad: Casgliad o wyth llyfr yn y gyfres Arwr - Dewis dy Dynged: Arwr y Gofod; Arwr y Môr-Ladron; Arwr yr Ail Ryfel Byd; Arwr y Llychlynwyr; Arwr y Groegiaid; Arwr yr Ymerodraeth; Arwr y Rhufeiniaid; Arwr y Tîm Taro.
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled

Awdur: (unknown)
Cyfieithydd: Elin Meek

Disgrifiad: Cei godi'r fflapiau, chwarae cuddio a chael hwyl yn dysgu am liwiau gyda Sophie. Cyfle i gyffwrdd a theimlo gwahanol weadau. Pum fflap mawr i'w codi. Chwarae pi-po ar thema lliwiau.
Grŵp Oedran: 11+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Emily Bone
Cyfieithydd: Elin Meek

Disgrifiad: Mae pob math o bethau i ddod o hyd iddyn nhw a'u gweld pan fyddwch chi'n mynd allan, yng nghefn gwlad neu mewn parc yn y dref. Mae'r llyfr hwn yn llawn syniadau i chi cael hwyl yn yr awyr agored, ble bynnag rydych chi a sut bynnag mae'r tywydd.
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Julia Donaldson
Cyfieithydd: Mererid Hopwood

Disgrifiad: Roedd Cwningen yn sboncio tuag adref un diwrnod, pan glywodd lais mawr yn dod o grombil ei gwâl. "Fi yw'r BWYSTFIL GWYRDD LLAMSACHUS a does neb yn fwy peryglus!" Daw ffrindiau Cwningen i'w helpu, ond mae'r llais mawr, dirgel yn dal i...
Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Jeff Kinney
Cyfieithydd: Owain Sion

Disgrifiad: Mae Dawns San Ffolant yn ysgol Greg wedi troi ei fyd ben i waered. Wrth iddo straffaglu i ddod o hyd i ferch i fynd efo fo, mae'n poeni y bydd ar y cyrion ar y noson fawr. Yna, yn gwbl annisgwyl, mae partner yn troi i fyny i fynd i'r ddawns efo...
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Stephanie Dragone
Cyfieithydd: Eleri Huws

Disgrifiad: Un tro, amser maith yn ôl, roedd hen ðr o'r enw Geppetto yn byw ar ei ben ei hun. 'Trueni nad oes gen i blentyn i'w garu ac i gadw cwmni i mi,' meddai. Felly, aeth Geppetto ati i gerfio pyped o bren. Roedd e'n edrych Ÿrun ffunud...
Amdanom Ni a Chyflwyniadau
Cysylltu
Termau a Thelerau
Polisi Preifatrwydd
Moesegau a Chynaliadwyedd
© 2024 Cyhoeddiadau Rily. Cedwir pob hawl.