Merch Ar-Lein: Neb Ond Fi
Grŵp Oedran: 11+
Fformat: Clawr meddal
Cyfres: Merch Ar-Lein
Awdur: Zoe Sugg aka Zoella
Cyfieithydd: Eiry Miles
Disgrifiad
Mae’n ddechrau blwyddyn ysgol newydd a Penny’n barod i wynebu’r byd – ar ei phen ei hun. Mae Noah wedi diflannu ar ôl gadael y daith gyda’r band yn gynnar, a does neb, ddim hyd yn oed Penny, yn gwybod lle mae e. Felly, wedi iddi dderbyn gwahoddiad gan Megan i ymweld â’r ysgol berfformio newydd lle mae hi bellach, daw cyfle i wneud ffrindiau newydd.
Mae bod yn gefn i eraill yn rhoi modd i fyw i Penny. Mae angen ei chefnogaeth ar Elliot yn fwy nag erioed, ac mae Posey, ei ffrind newydd, angen help hefyd i oresgyn ei hofn o fod ar lwyfan. A beth am Callum, y pishyn o Albanwr sy’n denu ei sylw? All Penny wir droi dalen newydd a chysgod Noah yn dal o’i chwmpas ym mhobman?
Manylion Cynnyrch
Dyddiad Cyhoeddi: 2 September 2019Genre: Oedolyn ifanc
ISBN 13: 9781849670920
Llyfrau tebyg efallai byddech yn mwynhau: