Amdanom Ni a Chyflwyniadau
Cyhoeddwyr llyfrau plant preifat, teuluol yw Cyhoeddiadau Rily. Cafodd ei sefydlu pan benderfynodd Richard a Lynda Tunnicliffe, sy'n ŵr a gwraig, ddechrau cyhoeddi fersiynau Cymraeg o lyfrau poblogaidd o ran diddordeb yn 2001.
Ers hynny maen nhw wedi graddol gynyddu eu catalog o lyfrau plant Cymraeg a llyfrau dwyieithog. Rydyn ni'n cyhoeddi llyfrau plant Cymraeg a dwyieithog o safon. Rydyn ni'n dysgu Cymraeg. Rydyn ni'n credu'n gryf mewn llyfrau dwyieithog i blant gan eu bod nhw'n ein helpu ni i ddarllen i'n plant yn Gymraeg a hefyd i ddilyn rhediad y stori ar yr un pryd. Rydyn ni o hyd yn ychwanegu at y llyfrau sydd ar gael ac rydyn ni wrth ein boddau pan fydd ein darllenwyr yn rhoi adborth i ni.