This site uses Google Analytics cookies to track visitor statistics.
For more information and links to our privacy policy please click here.

Accept & Dismiss Notification

« Yn ôl   

Matilda (in Welsh)

Grŵp Oedran: 11+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal
Cyfres: Roald Dahl

Awdur: Roald Dahl
Cyfieithydd: Elin Meek

£6.99
Ychwanegu i'r Basged
Beth am rannu?
Disgrifiad
Hen leidr cas yw tad Matilda Wormwood. A thipyn o dwpsen yw ei mam. Maen nhw'n meddwl bod Matilda'n boendod ac y dylai hi wylio rhagor o deledu a darllen llai o lyfrau! Ond mae Miss Honey, ei hathrawes hyfryd, yn meddwl bod Matilda yn athrylith. Mae gan Matilda rai triciau rhyfeddol yn ei llawes, felly gwell i'w rhieni ofnadwy a'r brifathrawes, sy'n fwy ofnadwy fyth, fod yn ofalus.
Manylion Cynnyrch
Dyddiad Cyhoeddi: 12 September 2016
Genre: Plant
ISBN 13: 9781849673495
Reviews

Gan mai nofel gan Roald Dahl yw hon, mae ein disgwyliadau, wrth gwrs, yn uchel o’r cychwyn cyntaf, a chawn ni ddim ein siomi. Mae’r stori yn dal ein diddordeb yn syth wrth i ni gwrdd â’r prif gymeriad hynod, sef Matilda. Merch fach gyda dawn a gallu arbennig yw Matilda er nad yw ei rhieni yn sylweddoli hynny. Yn dair oed mae’n medru darllen yn rhugl ac yn mwynhau pob math o lyfrau. Cyn pen dim mae hi wedi darllen pob llyfr yn yr adran i blant yn y llyfrgell. Yna cawn glywed am ei phrofiadau yn yr ysgol ble mae’n cwrdd â’r brifathrawes ofnadwy a chreulon, Miss Trunchbull. Yn anffodus i Matilda, mae Miss Trunchbull yn cymryd yn ei herbyn yn syth, wel mae’n casáu plant bach yn gyffredinol, ond mae’n casáu Matilda yn fwy na neb am ei bod mor ddeallus. Mae’n edrych yn debyg bod dyddiau ysgol Matilda yn mynd i fod yn rhai anodd dros ben ond rhaid peidio â datgelu gormod am hynny!

Cryfder pendant y stori yw’r cymeriadau lliwgar sydd yn cael eu disgrifio yn wych. Hyd yn oed heb y darluniau effeithiol byddem yn gwybod yn union sut rai ydynt o’u disgrifiadau. Ceir digon o ddigwyddiadau cyffrous a hiwmor hefyd i wneud y nofel yn bendant yn werth ei darllen!

Gail Jones

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Gail Jones
Cyngor Llyfrau Cymru.

Llyfrau tebyg efallai byddech yn mwynhau:
Ceirios y Dylwythen Deg Goch - Hud Yr Enfys 1
Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr
Charlie a'r Ffatri Siocled
Clem yn y Ddinas
CMM (Yr)
Crafangau'r Macra - Doctor Who (Dewis y Dynged)
Crocodeil Anferthol (y)
Danny Pencampwr y Byd by Roald Dahl
Gwalch y Nen
Gwrachod (Y)
Idris, Cawr y Mynydd - Byd y Bwystfilod 3
Jiráff, a'r Pelican a Fi
Mr Cadno Campus
Nab Wrc (cyfres Roald Dahl)
Roald Dahl - Casgliad Mawr (14)
Twits (Y)
Amdanom Ni a Chyflwyniadau
Cysylltu
Termau a Thelerau
Polisi Preifatrwydd
Moesegau a Chynaliadwyedd
© 2024 Cyhoeddiadau Rily. Cedwir pob hawl.