This site uses Google Analytics cookies to track visitor statistics.
For more information and links to our privacy policy please click here.

Accept & Dismiss Notification

« Yn ôl   

CMM (Yr)

Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Clawr meddal
Cyfres: Roald Dahl

Awdur: Roald Dahl
Cyfieithydd: Elin Meek

£6.99
Ychwanegu i'r Basged
Beth am rannu?
Disgrifiad
Addasiad Cymraeg o The BFG, stori anhygoel gan awdur llyfrau plant poblogaidd iawn yn sôn am ffrind gorau Sophie, sef y CMM, cawr mawr caredig sy'n defnyddio rhai geiriau hynod; i ddarllenwyr 8-11 oed. 72 llun du-a-gwyn. Argraffiad newydd.
Manylion Cynnyrch
Dyddiad Cyhoeddi: 1 May 2016
Genre: Llyfrau Cymraeg i blant
ISBN 13: 9781849673365
Reviews

' "Dyma’r snoscymbr amgas!" gwaeddodd yr CMM. "Dwi’n ei hasáu e! Dwi’n ei gamfygu e! Dwi’n ei thieiddio fe!" '’

Dyma ni eto, meddech. Camsillafu’r Gymraeg. Llurgunio ein hiaith.

'"Mae’r llabswitsiwr drwgwlgrwbiog gorddyrniog 'ma wedi fy ypsetio i!"'

'Beth nesaf?!' fe’ch clywaf yn taranu. Arwyddion ffyrdd sy’n parchu dim ar gywirdeb iaith, archfarchnadoedd yn arbenigo mewn camgyfieithiadau chwerthinllyd – a rŵan dyma lyfr ar gyfer ein plant sydd petai’n profi eu gallu i ddatrys posau. Ond arhoswch . . .

' "Geiriau," meddai, "sy’n broblem sy’n fy mhlwc-goglais i . . . Fi sy’n siarad y wigleg fwyaf erchyll." '

A chyda chyfaddefiad fel yna, daw goleuni ar y mater. Nid rhywun cyffredin sy’n siarad, ond cawr. Cawr Mawr Mwyn, yr Èc Èm Èm. Ydi, mae’r BFG wedi dysgu siarad Cymraeg.

Mae o wedi ei meistroli'n dda hefyd (gydag ychydig bach o help gan Elin Meek), yn ddigon da i adrodd ei stori amdano fo a Sophie yn achub plant bach Lloegr ('sydd â blas popscows gwych' arnyn nhw) rhag cael eu bwyta gan y Cnöwr Plant a’r Malwr Esgyrn a’r cewri erchyll eraill. Diolch byth na chlywson nhw erioed sôn am Gymru, felly cysgwch yn dawel, blant – neu ‘bantlos’ fe y buasai’r CMM yn ei ddweud.

Wna i ddim datgelu diwedd y stori, dim ond cyfaddef i mi ei mwynhau o’r dechrau i’r diwedd, yn enwedig y cam-eirio – y 'blodau dynol' ('human beans' yng ngwreiddiol Roald Dahl), 'yn fyddar fel tost', 'ar bigau’r brain', 'mynd fel bath i gythraul'. Mae gafael dda ar deithi’r heniaith gan yr hen gawr, a fuasech chi byth yn dweud mai wedi cyfieithu ei stori mae o; ac mae honno, fel y gwreiddiol, yn mynd ar garlam braf hyd y dudalen olaf.

Ond rhaid rhoi’r prawf eithaf iddi, sef ei gosod gerbron y darllenwr deg oed am ychydig oriau.

'— A sut stori oedd hi?'
'—ARBENNIG!'

Ann Gruffydd Rhys

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Ann Gruffydd Rhys
Cyngor Llyfrau Cymru

Llyfrau tebyg efallai byddech yn mwynhau:
10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod)
Camera Creulon
Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr
Charlie a'r Ffatri Siocled
Danny Pencampwr y Byd by Roald Dahl
Dolffin Gwyn
Gwalch y Nen
James a'r Eirinen Wlanog Enfawr
Jiráff, a'r Pelican a Fi
Lego Hanes Epig
Matilda (Cymraeg)
Mr Cadno Campus
Nab Wrc (cyfres Roald Dahl)
Pecyn Cyfres Twm Clwyd: 1-4
Roald Dahl - Casgliad Mawr (14)
Sherlock Holmes a Diflaniad y Diemwnt: cyfres Sêr Stryd y Popty
Twits (Y)
Amdanom Ni a Chyflwyniadau
Cysylltu
Termau a Thelerau
Polisi Preifatrwydd
Moesegau a Chynaliadwyedd
© 2024 Cyhoeddiadau Rily. Cedwir pob hawl.