This site uses Google Analytics cookies to track visitor statistics.
For more information and links to our privacy policy please click here.

Accept & Dismiss Notification

Llyfrau Plant > 5+ (Grŵp Oedran)

Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Victoria Taylor
Cyfieithydd: Catrin Wyn Lewis

Disgrifiad: Y teitl cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau LEGO clawr caled. Dyma stori gyffrous am yr arwyr Batman a Robin yn achub y dydd wrth ymladd yn erbyn eu gelynion. Addas ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen a'r Blynyddoedd Cynnar.
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Ronne Randall
Cyfieithydd: Non Tudur

Disgrifiad: Mae Jac yn gwerthu buwch y teulu yn gyfnewid am ffa hud, mae bywyd yn newid yn llwyr! Dyma stori llawn antur a chyffro sy'n dilyn helynt Jac wrth iddo gwrdd â'r cawr mawr yn y castell. Mae'r llyfr yn cynnwys gweithgaredd hwyliog yn y cefn.
Grŵp Oedran: 11+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Harriet Muncaster
Cyfieithydd: Eleri Huws

Disgrifiad: Hanner fampir, hanner tylwythen deg, cwbl unigryw! Mae Annalisa Swyn yn arbennig am ei bod yn wahanol. Tylwythen deg yw ei mam a fampir yw ei thad, ac mae Annalisa'n gyfuniad o'r ddau. Mae hi wrth ei bodd â phartïon pen-blwydd y plant...
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Astley/Baker/Davies
Cyfieithydd: Owain Sion

Disgrifiad: Dydy Peppa ddim yn gallu cofio crio a thorri gwynt fel babi – peth gwirion iawn fyddai hynny. Ond un diwrnod, daw Siwsi'r Ddafad â hen lun ohonyn nhw'u dwy yn fach i'w ddangos i Peppa. O ganlyniad, dechreua Peppa ddychmygu sut un oedd hi...
Grŵp Oedran: 11+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Catherine Barr
Cyfieithydd: Siân Lewis

Disgrifiad: Ar y dechrau, doedd DIM BYD yn byw ar y Ddaear. Roedd yn lle poeth a swnllyd. Roedd nwy myglyd yn ffrwydro o losgfynyddoedd, a moroedd o lafa'n byrlymu dros y glob... Yna, yn nyfnder tywyll y môr, digwyddodd RHYWBETH RHYFEDDOL.
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Petr Horácek
Cyfieithydd: Llinos Dafydd

Disgrifiad: Llyfr Fflip fflapiau i'w rannu gyda'ch babi. Trowch y dudalen a chodi'r fflap er mwyn gweld pob anifail! Gwnewch y synau anifeiliaid a dysgwch eu henwau. Dechrau cariad gydol oes at lyfrau.
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Campbell books
Cyfieithydd: Non Tudur

Disgrifiad: Peter Pan yw'r addasiad perffaith i blant bach i fwynhau'r clasur gan J.M Barrie. Dilynwch y plant Darling wrth iddyn nhw deithio i Dir Byth, darganfyddwch y Bechgyn Coll a dewch wyneb yn wyneb â Chapten Llaw Haearn.
Grŵp Oedran: 11+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Amrywiol/Various
Cyfieithydd: Elin Meek

Disgrifiad: Mae'r llyfr hardd hwn yn cyflwyno'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, mewn modd gweledol a symlach, i apelio at blant ifanc. Mae wedi'i ddarlunio gan lawer o artistiaid byd-enwog gwahanol. Rhodd ddelfrydol.
Grŵp Oedran: 11+ 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Susie Behar
Cyfieithydd: Elin Meek

Disgrifiad: Beth sydd i'w weld ar y fferm heddiw? Gyda chymorth y llyfr goleuo'r dudalen hwn, sy'n cynnwys gwaith celf hyfryd, cewch ddysgu am ffermio drwy'r tymhorau, yn cynnwys magu cywion anifeiliaid a thyfu a chynaeafu cnydau. Cewch hefyd ddarganfod...
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Priddy
Cyfieithydd: Aneirin Karadog

Disgrifiad: Pengwin bach yw Pip, ac mae ganddo ddychymyg byw! Mae Pip yn anfodlon ar fod yn ddu a gwyn, ac mae'n gofyn i'w ffrindiau, pam na all e fod yn lliwgar; fel orangwtang oren, fflamingo pinc, neu gadno coch. Dilyn Pip ar ei daith wrth iddo gwrdd ag...
Amdanom Ni a Chyflwyniadau
Cysylltu
Termau a Thelerau
Polisi Preifatrwydd
Moesegau a Chynaliadwyedd
© 2024 Cyhoeddiadau Rily. Cedwir pob hawl.