This site uses Google Analytics cookies to track visitor statistics.
For more information and links to our privacy policy please click here.

Accept & Dismiss Notification

Llyfrau Addysgol > Ysgol Gynradd

Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Priddy
Cyfieithydd: Luned Whelan

Disgrifiad: Mae'r llyfr hwn am anifeiliaid annwyl yn llawn tudalennau cyffwrdd a theimlo i ddiddanu'ch babi a'i helpu i ddysgu am y synhwyrau. Dyma ddau gi bach sy wedi blino'n lân ar ôl holl gyffro'r dydd. Nos da! Cysgwch yn dawel.
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Campbell books
Cyfieithydd: Luned Whelan

Disgrifiad: Ymunwch ag Alys fach, y Gwningen Wen, yr Hetiwr Hurt a Brenhines y Calonnau yn yr antur boblogaidd hon yn Ngwlad Hud. Gwthiwch, tynnwch a llithrwch drwy'r golgyfeydd i ddod â chlasuron stori Alys yng Ngwlad Hud yn fyw.
Grŵp Oedran: 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Priddy
Cyfieithydd: Siân Lewis

Disgrifiad: Dewch wyneb yn wyneb â 26 deinosor rhyfeddol, yn cynnwys y Ffabrosorws, yr Yingshanosorws, y Leptoceratops a'r Baryonics. Beth maen nhw'n fwyta? Pa mor fawr ydyn nhw? Darllenwch am eu pigau, eu crafangau, eu dannedd miniog a llawer mwy!
Grŵp Oedran: 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Carron Brown
Cyfieithydd: Elin Meek

Disgrifiad: Cyfrol ddarluniadol hardd sy'n cyflwyno cyfrinachau a llawenydd byd natur i blant, wrth iddynt ddysgu am y creaduriaid bach sy'n byw mewn coeden. Addasiad Cymraeg o Secrets of the Apple Tree gan Elin Meek.
Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Alan MacDonald
Cyfieithydd: Luned Whelan

Disgrifiad: Croeso i Ysgol y Nerthol - yr ysgol sy'n meithrin ARCHARWYR y dyfodol. Tra bod Siôn a'i ffrindiau'n brysur gyda'u gwersi HEDFAN ac yn paratoi ar gyfer yr arholuad ARWYR, does neb yn sylwi bod Bari Brêns wedi dechrau ymddwyn yn RHYFEDD...
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Astley/Baker/Davies
Cyfieithydd: Owain Sion

Disgrifiad: Mae Peppa a'i theulu'n mynd ar wyliau i'r Eidal. Gan fod cymaint o bethau i'w gweld, mae Peppa'n anghofio am Tedi o hyd ac o hyd! Fydd Tedi'n dod nôl adref gyda nhw?
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Astley/Baker/Davies
Cyfieithydd: Owain Sion

Disgrifiad: Dewch i adnabod lliwiau gyda Peppa! Bydd plant bach wrth eu bodd gyda'r geiriau cyfarwydd a'r lluniau lliwgar yn y llyfr perffaith hwn ar gyfer dwylo bychain.
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Astley/Baker/Davies
Cyfieithydd: Luned Whelan

Disgrifiad: Dewch i adnabod siapiau gyda Peppa! Bydd plant bach wrth eu bodd gyda'r geiriau cyfarwydd a'r lluniau lliwgar yn y llyfr bwrdd perffaith hwn ar gyfer dwylo bychain.
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Astley/Baker/Davies
Cyfieithydd: Owain Sion

Disgrifiad: Mae'n amser gwely, ond dydy Peppa a George ddim yn teimlo'n flinedig o gwbl! Tybed a fyddan nhw'n cysgu ar ôl cael stori amser gwely gan Nain Mochyn, Taid Mochyn, Dadi Mochyn a Mami Mochyn?
Grŵp Oedran: 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Clare Bevan
Cyfieithydd: Eleri Huws

Disgrifiad: Un diwrnod, mae'r Tylwyth Teg yn ymweld â siop sy'n gwerthu anifeiliaid anwes rhyfeddol. Prif ddymuniad Mesen yw cael ci bach i ofalu amdano. A fydd hi'n medru dod o hyd i'r un delfrydol yn y siop? Mae Tylwythen Deg ac anifail anwes y tu mewn...
Amdanom Ni a Chyflwyniadau
Cysylltu
Termau a Thelerau
Polisi Preifatrwydd
Moesegau a Chynaliadwyedd
© 2024 Cyhoeddiadau Rily. Cedwir pob hawl.