This site uses Google Analytics cookies to track visitor statistics.
For more information and links to our privacy policy please click here.

Accept & Dismiss Notification

Chwilio am Lyfr > Academi Archarwyr (Cyfres)

Grŵp Oedran: 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Lucy Daniels
Cyfieithydd: Bethan Mair

Disgrifiad: Wyt ti'n caru anifeiliaid? Mae Mali Huws hefyd. Ymuna â hi ar anturiaethau o bob math yn Arch Anifeiliaid. Cath fach frech gyda llygaid gwyrdd llachar a chôt streipiog fel teigr yw Emrallt. Mae Mali'n meddwl ei bod hi'n hynod o ciwt -...
Grŵp Oedran: 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal a CD

Awdur: Astley/Baker/Davies
Cyfieithydd: Luned Whelan

Disgrifiad: Llyfr llun-a-stori lliwgar ynghyd â chryno-ddisg llafar yn adrodd stori Y Fferm Fawr o'r gyfres deledu boblogaidd 'Ben a Mali a'u Byd Bach o Hud'. Ymunwn â'r Dywysoges Mali, Ben Coblyn a'r plant ar y Fferm Fawr, lle gwelant Lowri yn...
Grŵp Oedran: 7+ 11+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Gill Lewis
Cyfieithydd: Elin Meek

Disgrifiad: Mae rhywbeth yn byw yn nyfnderoedd y goedwig ... rhywbeth na welwyd ar fferm Callum ers dros gan mlynedd. Mae Callum ac Iona yn addo cadw eu darganfyddiad hynod yn gyfrinach, ond a lwyddan nhw i gadw'r gwrthrych rhag perygl? Mae eu cytundeb yn newid...
Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: 2 Steves (Barlow/Skidmore)
Cyfieithydd: Catrin Hughes

Disgrifiad: Rwyt ti'n ofodwr gydag Asiantaeth Gofod y Cenhedloedd Unedig. Mae'r asiantaeth wedi colli pob cyswllt gyda'r orsaf ar y lleuad. A fedri di gyrraedd i'r lleuad a dod o hyd i'r criw? Neu a fyddi di'n dewis llwybr gwahanol? Ti yw arwr y llyfr hwn. Dim...
Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: 2 Steves (Barlow/Skidmore)
Cyfieithydd: Catrin Hughes

Disgrifiad: Rwyt ti'n dditectif preifat sy'n byw yn Llundain. Mae'r Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn ar hyd a lled y byd, ond mae hi dan fygythiad. A fyddi di'n helpu'r heddlu i geisio dod o hyd i arf cyfrinachol sydd wedi'i ddwyn? Neu a fyddi di'n dewis llwybr...
Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: 2 Steves (Barlow/Skidmore)
Cyfieithydd: Catrin Hughes

Disgrifiad: Rwyt ti'n ryfelwr, ac yn aelod o lwyth sy'n herio'r Rhufeiniaid. Ond beth os cei di dy ddal - wyt ti'n ddigon dewr i fod yn un o'r gladiatoriaid? Neu a fyddi di'n dewis llwybr gwahanol? Ti yw arwr y llyfr hwn. Dim ond ti all ddewis dy dynged.  
Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: 2 Steves (Barlow/Skidmore)
Cyfieithydd: Catrin Hughes

Disgrifiad: Rwyt ti'n asiant gyda'r Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrin Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r Almaenwyr wedi cipio peiriant datrys côd cyfrinachol. A fedri di gyrraedd i Ffrainc a dinistrio'r peiriant? Neu a fyddi di'n dewis llwybr gwahanol?...
Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: 2 Steves (Barlow/Skidmore)
Cyfieithydd: Catrin Hughes

Disgrifiad: Rwyt ti'n anturiaethwr sy'n byw ym myd mytholegol Groeg yr henfyd. Mae merch Brenin Thebau wedi ei herwgipio. A fyddi di'n mynd i'w hachub ar unwaith? Neu a fyddi di'n dewis llwybr gwahanol? Ti yw arwr y llyfr hwn. Dim ond ti all ddewis dy...
Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: 2 Steves (Barlow/Skidmore)
Cyfieithydd: Catrin Hughes

Disgrifiad: Rwyt ti'n gapten ar long fasnachu Llychlynnaidd. Dinistriwyd dy bentref gan ysbeilwyr creulon. A fyddi di'n codi'r hwyliau eto ac yn dial arnynt? Neu a fyddi di'n dewis llwybr gwahanol? Ti yw arwr y llyfr hwn. Dim ond ti all ddewis dy dynged.
Grŵp Oedran: 11+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: 2 Steves (Barlow/Skidmore)
Cyfieithydd: Catrin Hughes

Disgrifiad: Rwyt ti'n rhan o dîm Gweithredoedd Arbennig ac yn gweithio ar yr ymgyrchoedd anoddaf. Mae wyres yr Arlywydd mewn perygl. A fedri di ei hachub hi? Neu a fyddi di'n dewis llwybr gwahanol? Ti yw arwr y llyfr hwn. Dim ond ti all ddewis dy dynged.