This site uses Google Analytics cookies to track visitor statistics.
For more information and links to our privacy policy please click here.

Accept & Dismiss Notification

« Back To List  

James a'r Eirinen Wlanog Enfawr

Age Group: 11+ 5+ 7+
Format: Paperback
Series: Roald Dahl

Author: Roald Dahl
Translator: Elin Meek

£6.99
Add to Basket
Why not share it?
Description
Follows the extraordinary escapades of James after he receives a bagful of magical crocodile tongues to enable him to escape from his two cruel aunts
Product Details
Published Date: 12 May 2016
Genre: Children
ISBN 13: 9781849673402
Reviews

Dyma’r ail nofel i blant gan Roald Dahl a aned yng Nghaerdydd. Fel ei lyfr cyntaf, Charlie a'r Ffatri Siocled (sydd, ynghyd â rhai o’i lyfrau o gerddi, ar gael yn y Gymraeg), bu’n boblogaidd tu hwnt.

Wedi i rieni James gael eu bwyta gan reinoseros a ddihangodd o’r sw, mae’n cael ei amddifadu o gariad a chyfeillion gan ei ddwy fodryb gas. Yn ffodus, daw ar draws dyn bach od sy’n rhoi bag o dafodau crocodeilod iddo. Er iddo gael ei siarsio i gadw'r bag yn ddiogel, mae’n llithro o afael James. Llowcir rhai o’r tafodau gan drychfilod, ond mae un dafod yn gwreiddio a’r bore drannoeth mae coeden ryfedd ym mherllan ei fodrybedd. Cyfle i wneud arian ydi’r eirinen enfawr iddyn nhw, tra bod James yn gorfod ei thendio.

Gyda’r nos, mae’n gweld twll ynddi ac yn ymwthio trwyddo. Yn ei charreg daw ar draws y creaduriaid oedd wedi llyncu’r hud, a bellach maen nhw’n gallu siarad. Fore trannoeth mae’r eirinen yn syrthio o’r goeden ac yn rhowlio lawr yr allt gan adael y ddwy hen ferch cyn fflatied â chrempog yn eu gardd. Wedi iddi lanio yn y môr caiff James a’i gyfeillion newydd anturiaethau di-ri ynddi cyn cyrraedd America o’r diwedd.

Oes elfennau sy’n swnio’n gyfarwydd? Yn debyg i gymysgedd o chwedlau’r Rhiain Gwsg, Jac a’r Goeden Ffa a Chulhwch ac Olwen? Wel, oes, wrth gwrs. Mae wedi ei seilio ar elfennau sy’n gyffredin ym mhob llên gwerin drwy’r byd. A dyna ran o gyfrinach llwyddiant Roald Dahl. Ond yr hyn sy’n gwneud i’w storïau apelio at blant yw eu bod nhw’n llawn o’r amrwd a’r ych-a-fiaidd erchyll sy’n fêl ar eu bysedd.

Mae popeth yn gorffen yn braf. Mor braf nes i James benderfynu ysgrifennu ei stori yn llyfr. Mae’n brafiach fyth ei fod bellach ar gael mewn Cymraeg bywiog a graenus – ie, ac amrwd ac ych-a-fiaidd – gan Elin Meek. Gresyn bod yn rhaid craffu a chraffu cyn darganfod ei henw. Mae’r addaswraig yn haeddu llawer mwy o sylw na hynny.

Gwynne Williams

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Gwynne Williams
Cyngor Llyfrau Cymru

Related books you may enjoy:
Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr
Charlie a'r Ffatri Siocled
CMM (Yr)
Crafangau'r Macra - Doctor Who (Dewis y Dynged)
Danny Pencampwr y Byd by Roald Dahl
Dyddiadur Dripsyn: 10. Oes yr Arth a'r Blaidd
Dynion Gwirion o'r Gofod (Cyfres Academi Archarwyr 2)
Gwalch y Nen
Jiráff, a'r Pelican a Fi
Lego Hanes Epig
Matilda (in Welsh)
Nab Wrc (cyfres Roald Dahl)
Pecyn Cyfres Twm Clwyd: 1-4
Pecyn Cymru ar y Map (3 Llyfr)
Roald Dahl - Casgliad Mawr (14)
Sherlock Holmes a Diflaniad y Diemwnt: cyfres Sêr Stryd y Popty
Twits (Y)
WAW! Y Ddaear
Y Teithwyr Amser (Llyfr Gweithgareddau Hanes Cymru - Cyfres 10 Stori o Hanes Cymru)
About Us & Submissions
Contact Us
Terms & Conditions
Privacy Policy
Ethics & Sustainability
© 2024 Rily Publications. All rights reserved.