Matilda (in Welsh)
Genre: Children
ISBN 13: 9781849673495
Gan mai nofel gan Roald Dahl yw hon, mae ein disgwyliadau, wrth gwrs, yn uchel o’r cychwyn cyntaf, a chawn ni ddim ein siomi. Mae’r stori yn dal ein diddordeb yn syth wrth i ni gwrdd â’r prif gymeriad hynod, sef Matilda. Merch fach gyda dawn a gallu arbennig yw Matilda er nad yw ei rhieni yn sylweddoli hynny. Yn dair oed mae’n medru darllen yn rhugl ac yn mwynhau pob math o lyfrau. Cyn pen dim mae hi wedi darllen pob llyfr yn yr adran i blant yn y llyfrgell. Yna cawn glywed am ei phrofiadau yn yr ysgol ble mae’n cwrdd â’r brifathrawes ofnadwy a chreulon, Miss Trunchbull. Yn anffodus i Matilda, mae Miss Trunchbull yn cymryd yn ei herbyn yn syth, wel mae’n casáu plant bach yn gyffredinol, ond mae’n casáu Matilda yn fwy na neb am ei bod mor ddeallus. Mae’n edrych yn debyg bod dyddiau ysgol Matilda yn mynd i fod yn rhai anodd dros ben ond rhaid peidio â datgelu gormod am hynny!
Cryfder pendant y stori yw’r cymeriadau lliwgar sydd yn cael eu disgrifio yn wych. Hyd yn oed heb y darluniau effeithiol byddem yn gwybod yn union sut rai ydynt o’u disgrifiadau. Ceir digon o ddigwyddiadau cyffrous a hiwmor hefyd i wneud y nofel yn bendant yn werth ei darllen!
Gail Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.