CMM (Yr)
Genre: Welsh Books for children
ISBN 13: 9781849673365
' "Dyma’r snoscymbr amgas!" gwaeddodd yr CMM. "Dwi’n ei hasáu e! Dwi’n ei gamfygu e! Dwi’n ei thieiddio fe!" '’
Dyma ni eto, meddech. Camsillafu’r Gymraeg. Llurgunio ein hiaith.
'"Mae’r llabswitsiwr drwgwlgrwbiog gorddyrniog 'ma wedi fy ypsetio i!"'
'Beth nesaf?!' fe’ch clywaf yn taranu. Arwyddion ffyrdd sy’n parchu dim ar gywirdeb iaith, archfarchnadoedd yn arbenigo mewn camgyfieithiadau chwerthinllyd – a rŵan dyma lyfr ar gyfer ein plant sydd petai’n profi eu gallu i ddatrys posau. Ond arhoswch . . .
' "Geiriau," meddai, "sy’n broblem sy’n fy mhlwc-goglais i . . . Fi sy’n siarad y wigleg fwyaf erchyll." '
A chyda chyfaddefiad fel yna, daw goleuni ar y mater. Nid rhywun cyffredin sy’n siarad, ond cawr. Cawr Mawr Mwyn, yr Èc Èm Èm. Ydi, mae’r BFG wedi dysgu siarad Cymraeg.
Mae o wedi ei meistroli'n dda hefyd (gydag ychydig bach o help gan Elin Meek), yn ddigon da i adrodd ei stori amdano fo a Sophie yn achub plant bach Lloegr ('sydd â blas popscows gwych' arnyn nhw) rhag cael eu bwyta gan y Cnöwr Plant a’r Malwr Esgyrn a’r cewri erchyll eraill. Diolch byth na chlywson nhw erioed sôn am Gymru, felly cysgwch yn dawel, blant – neu ‘bantlos’ fe y buasai’r CMM yn ei ddweud.
Wna i ddim datgelu diwedd y stori, dim ond cyfaddef i mi ei mwynhau o’r dechrau i’r diwedd, yn enwedig y cam-eirio – y 'blodau dynol' ('human beans' yng ngwreiddiol Roald Dahl), 'yn fyddar fel tost', 'ar bigau’r brain', 'mynd fel bath i gythraul'. Mae gafael dda ar deithi’r heniaith gan yr hen gawr, a fuasech chi byth yn dweud mai wedi cyfieithu ei stori mae o; ac mae honno, fel y gwreiddiol, yn mynd ar garlam braf hyd y dudalen olaf.
Ond rhaid rhoi’r prawf eithaf iddi, sef ei gosod gerbron y darllenwr deg oed am ychydig oriau.
'— A sut stori oedd hi?'
'—ARBENNIG!'
Ann Gruffydd Rhys
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.