This site uses Google Analytics cookies to track visitor statistics.
For more information and links to our privacy policy please click here.

Accept & Dismiss Notification

Llyfrau Addysgol > 0+ (Grŵp Oedran)

Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Catherine Bruzzone
Cyfieithydd: Elin Meek

Disgrifiad: Llyfr llun-a-gair rhyngweithiol. Mae'n cynnig ffordd effeithiol a syml o ddysgu dros 130 o eiriau allweddol yn y Gymraeg. Rhennir y geiriau hynny i 15 o themâu poblogaidd, gan gynnwys y fferm, teulu, ysgol, lliwiau a bwyd.
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Brendan Kearney
Cyfieithydd: Awen Schiavone

Disgrifiad: Mae'r gofod yn gallu bod yn lle unig. Dyna pam mae'r Lleuad yn hoffi gwylio'r bobl sy'n byw ar y Ddaear yn mynd a dod. Pan mae'r Haul allan, mae pawb yn hapus i'w weld, sy'n creu problem i'r Lleuad, achos mae pawb yn mynd i gysgu wrth iddi hi godi.
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Brendan Kearney
Cyfieithydd: Awen Schiavone

Disgrifiad: Antur Eifion a Sboncyn yn y goedwig law. Mae Eifion a'i gi, Sboncyn, yn archwilio'r goedwig law. Ond pam bod y tapir yn unig? A pham bod yr holl goed wedi diflannu? Ymunwch â Eifion a Sboncyn wrth iddynt ddysgu eu bod nhw'n gallu helpu achub y...
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Llyfr bath

Awdur: Disney
Cyfieithydd: Lowri Head

Disgrifiad: Dewch i ymuno â'ch ffrindiau Babi Disney gorau wrth gael hwyl yn y bath! Daw'r llyfr mewn gorchudd i'w gadw'n lân cyn ei brynu. Dyma lyfr swynol yn dangos cymeriadau hudol y ffilm Disney boblogaidd 'The Litttle Mermaid'.
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Llyfr bath

Awdur: Disney
Cyfieithydd: Lowri Head

Disgrifiad: Ble Mae Nimo? Ymuna â Nimo i gael hwyl dan y tonnau, yn y llyfr bath bendigedig hwn, sy'n berffaith ar gyfer cael sbri yng nghanol y swigod! Dyma lyfr swynol sy'n dangos cymeriadau hudol y ffilm Pixar boblogaidd 'Finding Nemo'.
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Carol Vorderman
Cyfieithydd: Rhian a Richard Carbis

Disgrifiad: Llyfr ymarferion llawysgrifen i helpu plant 3-7 oed i ddysgu a gwella eu sgiliau sgrifennu. Mae'n llawn ymarferion hwyliog, cyfle i ffurfio llythrennau a thynnu lluniau, ac mae sêr aur a thystysgrif yn wobrau ar y diwedd. Mae'r llyfr wedi ei...
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Elizabeth Cooke
Cyfieithydd: Llinos Dafydd

Disgrifiad: Mae'n amser gwely yn y goedwig. Dim ond un o'r ffrindiau sy'n gysglyd yn ei wely - pryd bydd y lleill yn barod i fynd i gysgu? Stori berffaith cyn cysgu ar gyfer plant bach. Llyfr bwrdd cadarn a lliwgar, gyda thabiau, i swyno plant a rhieni.
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Elizabeth Cooke
Cyfieithydd: Llinos Dafydd

Disgrifiad: Mae'n amser gwely ar y fferm. Dim ond un o'r ffrindiau sy'n gysglyd yn ei wely - pryd bydd y lleill yn barod i fynd i gysgu? Llyfr bwrdd swynol a lliwgar gyda thabiau yn siapiau'r anifeiliaid - perffaith ar gyfer plant bach.
Grŵp Oedran: 0+ 5+ 7+
Fformat: Clawr meddal

Awdur: Jon Burgerman
Cyfieithydd: Llinos Dafydd

Disgrifiad: Mae gennym oll deimladau ac mae hynny'n iawn! Sut wyt TI'n teimlo heddiw? Yn y gyfrol ddifyr hon, gyda chymeriadau hwyliog ac arlunwaith bywiog, mae Jon Burgerman yn cyflwyno dros ugain o deimladau, gan osod pob un yn ei gyd-destun perthnasol er...
Grŵp Oedran: 0+ 5+
Fformat: Clawr caled

Awdur: Disney

Disgrifiad: Dere i ddysgu 100 gair cyntaf gyda dy ffrindiau bach Disney. Gyda thudalennau cadarn ar gyfer bysedd bach a llawer o bethau difyr i'w gweld, bydd y llyfr tabiau hyfryd hwn yn diddanu plant bach am oriau.
Amdanom Ni a Chyflwyniadau
Cysylltu
Termau a Thelerau
Polisi Preifatrwydd
Moesegau a Chynaliadwyedd
© 2024 Cyhoeddiadau Rily. Cedwir pob hawl.